Mae’r model anabledd , neu’r model unigol yn cymryd ‘dull diffyg yn y plentyn’ ac yn ceisio gwella neu gywiro’r cyflwr hwnnw (Connor & Stalker, 2007: 21).
Mae’r model cymdeithasol o anabledd yn cydnabod effaith problemau mynediad o fewn amgylcheddau materol ac effaith ‘agweddau ac ymarfer gwahaniaethol’ (Booth & Ainscow, 2011: 45).
Yn Neddf Addysg 1996, ystyrir bod angen ar y sawl sydd ag anawsterau dysgu rhyw fath o ddarpariaeth addysgol arbennig. Hall ysgrifennu mor gynnar â 1977 am ‘Wlad Arbennig’ ar gyfer disgyblion gydag AAA sydd wedi cael eu gwrthod rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau prif lif…
Dywed Erthygl 23 fod gan blentyn anabl yr hawl i dderbyn gofal arbennig, addysg a hyfforddiant sydd wedi’u dylunio i’w helpu i gyflawni’r hunanddibyniaeth fwyaf posib er mwyn byw bywyd llawn a bywiog